Rydym yn falch iawn o gyhoeddi chwe chyfle prentisiaeth cyffrous o fewn ein sefydliad. Yn dilyn diddordeb gan ein cydweithwyr masnach sy’n barod i fentora a chefnogi prentisiaid, rydym wedi ymestyn ein hymrwymiad i ddarpar unigolion sy’n dangos brwdfrydedd ac etheg gwaith eithriadol.
I ddathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau, aethom â’n hymroddiad gam ymhellach drwy ymweld â Choleg Pen-y-bont ar Ogwr i gyflwyno Llanw, arddangos ein gwasanaethau, a chynnig y chwe swydd prentisiaeth sydd ar gael.
Beth sydd ar y gweill ar gyfer darpar brentisiaid?
Os oes gennych chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod ddiddordeb mewn cychwyn ar daith brentisiaeth gyda Llanw, llenwch y ffurflen hon neu cysylltwch â Shaun McGregor ar shaun.mcgregor@llanw.wales. Rydym yn awyddus i groesawu unigolion angerddol sy’n barod i ddysgu, tyfu, a chyfrannu at lwyddiant ein tîm.