Ein gwasanaethau
Ein gwasanaethau

Rydyn ni yma i ofalu am eich cartrefi. Rydyn ni’n dîm lleol yn ne Cymru, sy’n cynnig ymagwedd ffres a dibynadwy at gynnal a chadw ac atgyweirio eiddo.

Yn union fel y llanw, rydyn ni bob amser yn symud, yn addasu, ac yn ymateb i’ch anghenion. Boed hynny’n trwsio rhywbeth yn gyflym, cadw eich cartref yn ddiogel, neu wneud gwelliannau, gallwch ddibynnu arnon ni i godi i’r her.

Rydyn ni’n falch o fod yn ddibynadwy, yn gyson, ac yn hawdd gweithio gyda ni. Sgroliwch i lawr i ddarganfod pa wasanaethau rydyn ni’n eu cynnig a sut y gallwn ni helpu.

Ein gwaith

Repairs icon
Atgyweiriadau Ymatebol
Rydyn ni'n ymateb yn gyflym i geisiadau am atgyweirio er mwyn cadw eich cartref yn ddiogel ac yn gyfforddus. O dapiau sy'n gollwng i ffenestri wedi torri, mae ein tîm wrth law i'w trwsio.
Electric Bolt icon
Adroddiadau Cyflwr Gosodiadau Trydanol (EICR)
Rydyn ni'n gwirio cyflwr y systemau trydanol yn eich cartref i sicrhau bod popeth yn ddiogel ac yn cydymffurfio â'r safonau.
Gas Flame icon
Gwasanaethu Nwy
Mae ein peirianwyr nwy yn cynnal gwiriadau rheolaidd ar eich boeler a’ch offer nwy arall er mwyn eich cadw'n ddiogel ac yn gynnes.
Extractor Fan icon
Systemau Awyru Cartref
Rydyn ni'n gwasanaethu gwyntyllau echdynnu i helpu i atal lleithder a gwella ansawdd yr aer yn eich cartref.
ROuter icon
Pyrth Aico
Rydyn ni'n gosod ac yn rheoli dyfeisiau Porth Aico, sy'n ein helpu i fonitro a chynnal a chadw larymau tân a larymau carbon monocsid yn eich cartref o bell.
Vacuum Cleaner icon
Adnewyddu Cartrefi Gwag
Pan fydd cartref yn wag, rydyn ni'n ei baratoi ar gyfer tenantiaid newydd drwy lanhau, atgyweirio, a gwneud unrhyw waith uwchraddio angenrheidiol.
Damp icon
Arolygu Lleithder, Llwydni a Chyddwysiad
Rydyn ni'n ymchwilio i broblemau lleithder, llwydni a chyddwysiad, ac yn argymell atebion i gadw eich cartref yn iach ac yn sych.
Survey Clipboard icon
Arolygu Diffyg Atgyweirio
Os oes rhywbeth o'i le yn eich cartref, rydyn ni'n cynnal arolygiadau manwl i ddeall beth y mae angen ei drwsio a llunio cynllun i ddatrys y sefyllfa.
Repairs icon
Ymdrin â Galwadau
Mae ein tîm gwasanaeth cwsmeriaid cyfeillgar wrth law i ateb eich galwadau, gwrando ar eich ymholiadau am atgyweiriadau, a helpu i ddatrys pethau'n gyflym.