Cyflwyniad i’n Syrfëwr dan Hyfforddiant newydd, Rhys!

Gan fod nifer ein cwsmeriaid a’n cartrefi’n tyfu, rydyn ni’n gwybod bod angen i ni dyfu a hyfforddi ein timau hefyd. Yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, croesawom 32 o bobl newydd i Llanw, yn cynnwys hyfforddeion a chwe phrentis. Rydyn ni’n deall pa mor bwysig yw buddsoddi ym mhobl ifanc Pen-y-bont ar Ogwr, gan roi profiad ymarferol iddyn nhw a’u galluogi i gyfrannu i’w cymuned.

Felly hoffem gyflwyno ein hyfforddai diweddaraf, Rhys, a ddaeth yn Syrfëwr dan Hyfforddiant yma yn ddiweddar. Cawsom air gydag ef i weld sut mae pethau’n mynd hyd yma:

“Ymgeisiais am y rôl Syrfëwr dan Hyfforddiant am ei fod yn cyd-fynd yn berffaith â’m diddordebau academaidd a’m huchelgeisiau gyrfa tymor hir. Rwyf wedi mwynhau mathemateg a pheirianneg erioed, yn enwedig yr agwedd datrys problemau ymarferol ac mae mesur meintiau’n teimlo fel y ffordd ddelfrydol o gymhwyso’r sgiliau hyn at brosiectau byd go iawn.

“Pan glywais fod Llanw yn cynnig cyfle i ennill wrth ddysgu, cael profiad diwydiant, a gorffen fy ngradd heb ddyled prifysgol, teimlais mai dyma’r cyfle perffaith.

“Yn ystod fy hyfforddiant, rwy’n edrych ymlaen yn bennaf at ddeall sut mae prosiectau adeiladu’n cael eu costio, eu rheoli a’u cyflawni’n llwyddiannus. Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn dadansoddi data prosiectau, paratoi amcangyfrifon cywir, a chymhwyso technegau mesur. Mae’r meysydd hyn yn caniatáu i mi ddefnyddio fy nghryfderau mewn mathemateg mewn ffordd ymarferol ac ystyrlon, ac rwy’n awyddus i adeiladu ar y cynnydd hwn wrth fynd yn fy mlaen.”

“Gan i mi gael fy magu ym Maesteg, mae’n bwysig i mi fy mod yn cael datblygu fy sgiliau mewn cwmni sy’n deall y gymuned”

Parhaodd Rhys:

“Fel person ifanc 18 oed ar drothwy fy ngyrfa, mae’n gyffrous ac yn galonogol cael dechrau gyda sefydliad lleol. Gan i mi gael fy magu ym Maesteg, mae’n bwysig i mi fy mod yn cael datblygu fy sgiliau mewn cwmni sy’n deall y gymuned a’r prosiectau sy’n bwysig iddi. Rwy’n falch o gael dechrau fy ngyrfa mewn man sy’n cefnogi fy natblygiad ac yn caniatáu i mi gadw fy nghysylltiad â’r lle rwy’n ei adnabod orau.

“Un o rannau mwyaf diddorol fy mhroses nghylchdroi hyd yma oedd treulio amser gyda’r Tîm Datblygu. Es i gyda nhw i safle adeiladau newydd ym Mhorth a oedd yn ei gamau olaf. Roeddwn wedi synnu wrth weld faint o fanylder sydd ynghlwm wrth yr elfennau lleiaf hyd yn oed o’r prosiect. Esboniodd y tîm pa mor agos mae’n rhaid iddynt weithio er mwyn cydymffurfio â’r rheoliadau adeiladu a sicrhau diogelwch y safle.

“Dysgais hefyd pa mor bwysig yw’r cyfarfodydd cynnydd i sicrhau bod y safleoedd yn cadw at eu cyllideb ac yn barod i drosglwyddo mor llyfn a chyflym â phosibl. Cefais ddealltwriaeth go iawn o lefel y cynllunio a’r cywirdeb sydd ynghlwm wrth eu gwaith.

“Dros y blynyddoedd nesaf, fy nod yw adeiladu ar sylfaen gadarn o wybodaeth dechnegol a phrofiad ymarferol. Rydw i eisiau dod yn hyderus yn y meysydd mesur, amcangyfrif costau a chyllidebu, a chefnogi gwaith y tîm ehangach yn effeithiol.

“Fy nod yw cyfrannu’n ystyrlon at y sefydliad ynghyd a datblygu i fod yn Syrfëwr Meintiau galluog, profiadol.”

Croeso i’r tîm, Rhys!