Enillon ni Ymgyrch y Flwyddyn, felly rydych chi’n ennill hefyd!

Rydym wrth ein bodd am fod Llanw wedi ennill gwobr Ymgyrch y Flwyddyn yng Ngwobrau Tai Cymru 2024!

Mae’r wobr hon yn cydnabod ymgyrchoedd sy’n cael effaith go iawn, ac mae’n tynnu sylw at y gwaith tîm rhwng ein cydweithwyr, ein partneriaid, a chi – ein cwsmeriaid- wrth lunio’r brand Llanw.

Ers ei greu, cafodd Llanw ei gynllunio nid yn unig i ddarparu gwasanaethau atgyweirio a chynnal a chadw, ond i drawsnewid sut rydym yn cefnogi dros 6,000 o gartrefi ar draws Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae’r enw Llanw yn cyfleu ei ymatebolrwydd a’i allu i addasu i anghenion newidiol cwsmeriaid. O weithdai darganfod i gwsmeriaid i sesiynau taflu syniadau i gydweithwyr, cafodd pob cam o ddatblygiad Llanw ei lywio gan y rhai y mae’n eu gwasanaethu.

Chwaraeodd ein partneriaethau cryf ran ganolog yn nhaith Llanw hefyd. Trwy weithio’n agos â Cardo Group, Alliance Homes a Bright Collie, adeiladodd Llanw sylfaen gref a phroffesiynol.

Y tuhwnti’rbrand

Ers ei lansio ym mis Ebrill 2024, mae Llanw wedi cael effaith sylweddol:

  • 20 o swyddi newydd wedi’u creu i grefftwyr lleol.
  • Chwe phrentisiaeth wedi’u cynnig i bobl ifanc, gan ddarparu cyfleoedd gyrfa gwerthfawr.
  • Boddhad cwsmeriaid o 90% wedi’i gyflawni o fewn chwe mis – sy’n adlewyrchu ymrwymiad Llanw i roi cwsmeriaid yn gyntaf.
  • Presenoldeb cynyddol ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda 38,800 o argraffiadau ar Facebook a 5,700 ar LinkedIn, gan sicrhau gwelededd ac ymgysylltiad.

Gellir teimlo presenoldeb Llanw ar draws Pen-y-bont ar Ogwr, o’r faniau wedi’u hailfrandio a’r swyddfeydd wedi’u hadnewyddu i ddigwyddiadau cymunedol, sioeau teithiol, ac ymgyrchoedd recriwtio.

Wrth i ni ddathlu’r fuddugoliaeth hon, rydym hefyd yn canolbwyntio ar y mater pwysicaf: darparu gwasanaethau gwych i chi – ein cwsmeriaid. Mae llwyddiant Llanw yn dangos yr hyn y gallwn ei gyflawni pan fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd, yn gwrando ar ein cymunedau, ac yn anelu at ragoriaeth.

Ein fforddni o ddweuddiolch

I ddiolch i’r 1,719 o gwsmeriaid sydd wedi ymgysylltu â Llanw ers ei lansiad, bydd unrhyw un sydd wedi rhoi adborth i ni trwy’r arolwg boddhad cwsmeriaid yn dilyn atgyweiriad yn cael eu cynnwys mewn raffl i ennill taleb o’u dewis gwerth £100 – mewn pryd ar gyfer y Nadolig!