Yn gynharach y mis hwn, dathlom yr Wythnos Brentisiaethau Genedlaethol drwy fyfyrio ar yr effaith gadarnhaol mae prentisiaethau’n ei chael ar bobl a sefydliadau.
Rydyn ni’n falch o gael rhoi cyfle i bobl ifanc wneud gwaith ystyrlon a dysgu, ennill, a datblygu eu set o sgiliau ar yr un pryd.
Ein huchelgais
Rydym yn ymdrechu i sicrhau y bydd prentisiaid yn cynrychioli 10% o’n gweithlu yn Llanw yn y dyfodol agos, felly rydym bob amser yn ystyried sut gallwn wella profiadau ein prentisiaid presennol.
Dal i fyny â Kaitlyn
Y llynedd, buom yn cyfweld â Kaitlyn wrth ei gwaith i glywed beth mae’n ei wneud o ddydd i ddydd, pa grefft mae’n ei mwynhau fwyaf, ac wrth gwrs, ai te neu goffi sydd well ganddi wrth weithio!
Mae gwrando ar reolwr Kaitlyn yn trafod y cynnydd mae wedi’i wneud yn dyst i’w gwaith caled, ac i werth cynlluniau prentisiaeth fel hwn!
“Roedd ymuno â Llanw yn un o’r penderfyniadau gorau erioed i mi”
Mwynhasom ail-wylio cyfweliad Ryan hefyd, sy’n amlygu’r cyfraniad ystyrlon mae ein prentisiaid yn ei wneud i’w cymunedau, a’r ymdeimlad o bwrpas mae’n ei roi iddynt.
Ers hynny, mae Ryan wedi graddio o’i gynllun prentisiaeth ac mae’n parhau i fod yn aelod gwerthfawr o’n tîm!