Prawf o ansawdd: Rydym wedi sicrhau achrediad allweddol ar gyfer drysau tân!

Rydym yn falch o ennill achrediad gan y Sefydliad Ardystio Tân (IFC), awdurdod blaenllaw sy’n asesu ansawdd a diogelwch gwaith sy’n gysylltiedig â diogelu rhag tân. Mae’r llwyddiant hwn yn brawf o’n cymhwysedd wrth osod a chynnal a chadw drysau tân.

Mwyo ariana gwasanaethaullyfnach

Bydd ennill yr achrediad IFC o fudd i chi –ein cwsmeriaid – ac i’n busnes:

  • Gall gosod drysau tân trwy isgontractwyr gostio tua £2,500 y drws. Trwy wneud hyn ein hunain, gallwn fuddsoddi mwy o arian i wella eich cartrefi a’ch cymunedau.
  • Gallwn ymateb yn gynt i atgyweiriadau brys, er enghraifft pan fydd drysau wedi’u difrodi neu wedi’u hagor trwy rym gan y gwasanaethau brys.
  • Mae’r achrediad hwn hefyd yn agor y drws i archwilio mwy o feysydd gwasanaeth, megis atal tân (fire stopping) a gosod drysau cyfansawdd.

Beth maehynyneiolyguichi

Mae gan ein tîm yr arbenigedd a’r awdurdod i gymeradwyo ein drysau tân ein hunain, gan roi hyder i chi fod y gwaith yn eich cartref yn cael ei wneud yn ddiogel ac yn gywir. Mae’n ein galluogi i ddarparu gwasanaethau’n fwy effeithlon a dangos wyneb cyfeillgar, cyfarwydd pan fyddwn yn ymweld â’ch cartref.

Proses lafurus

I baratoi ar gyfer yr asesiad, datblygodd y tîm bolisïau cadarn, cyflwynodd feddalwedd diogelu rhag tân arbenigol, a pharatôdd ddogfennau a chanllawiau manwl ar gyfer yr asesydd. Roedd yn waith caled, ond buymdrech y tîm yn werth chweil. Gwnaethom lwyddo, ond ar ben hynny roedd ein cyfradd lwyddo dros 90% gydag un cyngor bach yn unig yn ystod yr archwiliad mewnol – mater geirio technegol yn ein dogfennaeth atebolrwydd cyhoeddus.

Mae ennill achrediad IFC ddim ond y dechrau. Rydym eisoes yn cynllunio’r camau a’r hyfforddiant nesaf, gan gynnwys:

  • Ardystiad MCS – technolegau ynni adnewyddadwy.
  • City and Guilds Solar PV Lefel 3 – i ehangu sgiliau ein tîm crefftau.
  • Hyfforddiant IFC pellach i gadw i’r funud.
  • Cwrs IFE Lefel 3 – cyfle arall i dyfu’n broffesiynol.

Mae’r achrediad hwn yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i’ch cadw chi – ein cwsmeriaid – yn ddiogel, i ddarparu gwaith o ansawdd uchel, ac i gefnogi cydweithwyr i ddatblygu eu sgiliau.