Tracio ein crefftwyr: Mae paratoi ar gyferatgyweiriadau wedi dod yn haws!

Un o’n prif flaenoriaethau yw gwella ein cyfathrebu ynglŷn ag atgyweiriadau. Rydych wedi rhoi adborth i ni fel “rydw i eisiau gwybod yn union pa bryd fyddwch chi’n dod” a “peidiwch â jyst troi i fyny”, felly rydym wedi gweithredu ar hyn.

O hyn ymlaen, byddwn yn anfon dolen atoch trwy neges destun pan fyddwn ar ein ffordd fel y gallwch dracio ein gyrrwr a chael amser cyrraedd amcangyfrifedig!

Bydd hyn yn eich helpu i:

  • Gynllunio eich diwrnod o amgylch ein hymweliad.
  • Bod yn hyderus eich bod yn agor y drws i un o’n crefftwyr.

Dyma beth fydd y neges destun neu’r e-bost yn ei ddweud:

“Rydyn ni ar ein ffordd ar gyfer atgyweiriad [rhif cyfeirnod]. I weld yr amser cyrraedd amcangyfrifedig, cliciwch [dolen]. Dydych chi ddim gartref? Ffoniwch 0300 123 2100.”

Mae cwsmeriaid wedi ymateb yn gadarnhaol yn barod, gydag un yn dweud “hen bryd, da iawn” ac un arall yn dweud “os nad oes rhaid i ni aros gartref drwy’r dydd mwyach, rydych chi wedi gwneud gwaith da!”.

Rydym yn falch o allu gwneud eich atgyweiriadau ychydig yn haws i chi!