Yn Llanw, rydym yn falch o fod yn fwy na dim ond darparwr gwasanaethau eiddo. Rydym yn dîm sy’n tyfu, yn esblygu, ac yn dangos beth sy’n bosibl pan fyddwch yn adeiladu gweithle o amgylch pobl, pwrpas a
chynnydd.
Dros y 15 mis diwethaf, mae Llanw wedi trawsnewid o fod yn syniad newydd beiddgar i fod yn sefydliad ffyniannus sy’n cael ei arwain gan werthoedd – ac rydym dim ond ar y dechrau.
Pan lansiwyd Llanw gyntaf, roedd gennym uchelgeisiau mawr, ac yn naturiol, roedd cwestiynau mawr hefyd. A fyddem yn dibynnu mwy ar is-gontractwyr ac yn cwtogi ar ein tîm?
A fyddai ein cydweithwyr yn cael eu gadael ar ôl?
15 mis yn ddiweddarach, mae’r canlyniadau’n siarad drostynt eu hunain.
Yn hytrach na chynyddu gwariant ar is-gontractwyr, rydym wedi buddsoddi yn Llanw ac wedi tyfu o dîm o 70 i 128! Ond nid ydym yn tyfu er mwyn tyfu yn unig; gwyddom fod angen mwy o gydweithwyr dibynadwy sy’n cyd-fynd â’n gwerthoedd i’n helpu i ymateb yn gyflym a chwblhau mwy o’ch atgyweiriadau i safon uchel.
I’n helpu i wneud hyn mewn ffordd sy’n gwneud i’n cydweithwyr deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, fe wnaethom:
● Gyflwyno contractau newydd i roi mwy o hyblygrwydd i gydweithwyr, os oeddent eisiau hynny; dewisodd rhai i gadw eu contractau presennol. Roedd dewis yn allweddol.
● Creu telerau ac amodau newydd i ganiatáu i’r rhai a oedd eisiau gweithio mwy o oriau y gallu i ennill mwy. Mae hyn hefyd yn ein helpu i gyflawni mwy o atgyweiriadau ac ymestyn ein gwasanaeth i weddu’n well i’ch anghenion.
Rydym yn lle gwych i weithio – ond peidiwch â chymryd ein gair ni yn unig!
Rydym wedi cryfhau ein safle, wedi adeiladu ymddiriedaeth, ac wedi dangos beth sy’n bosibl pan fyddwn yn gwneud penderfyniadau dewr gyda’n cydweithwyr. Mae mwy o’n cydweithwyr yn Llanw nawr yn dweud y byddent yn ein hargymell fel lle gwych i weithio!
Dyma sut mae’r Sgôr Hyrwyddwr Net (NPS) wedi tyfu:
Digwyddiad Lansio: 81% yn dweud y byddent yn ein hargymell.
Dathliad Chwe Mis: 86% yn dweud y byddent yn ein hargymell.
Pen-blwydd Blwydd Oed: 92.1% yn dweud y byddent yn ein hargymell.
Dyma ein sgôr orau hyd yma, sy’n arwydd bod pobl yn falch o fod yn rhan o Llanw ac y byddent yn hapus i’w argymell i eraill.
Y tu ôl i’r sgôr honno mae tîm sy’n gweithio’n galed i ddathlu llwyddiant, hyrwyddo o’r tu mewn, cefnogi llesiant, a chreu llwybrau gyrfa go iawn.
Wrth i ni ddechrau meddwl am yr Is-gwmni Datblygu, nid ydym yn dechrau o’r dechrau; rydym yn dechrau o safle o nerth, gyda’r gwersi a ddysgwyd gennym trwy lansio Llanw yn flaenllaw yn ein meddyliau.