Rydym wedi cael ein henwebu ar gyfer Gwobr Tai Cymru!

Rydym yn falch iawn bod ein hymroddiad i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol wedi cael ei gydnabod!

Ers i ni gael ein lansio ym mis Ebrill 2024, rydym wedi ymroi i adeiladu gwasanaeth trwsio sy’n canolbwyntio’n bennaf ar y cwsmer. Trwy ein menter ‘Dydd Gwener Adborth’, rydym yn ffonio pob cwsmer ar ôl eu gwaith trwsio i ofyn beth wnaethom yn dda, a sut y gallwn wneud gwaith gwell y tro nesaf.

Trwy wrando ar adborth, rydym wedi gwneud llawer o newidiadau ystyrlon, megis:

Cynnig apwyntiadau gyda’r nos ac ar y penwythnos.

Cyflwyno meddalwedd ‘tracio ein crefftwyr’, fel bod cwsmeriaid yn gwybod pan fyddwn ar ein ffordd.

Rhoi’r gorrau i opsiynau ffôn cymhleth.

Cyflogi siaradwyr Cymraeg fel bod cwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg yn gallu nodi atgyweiriadau’n hawdd.

Cyflwyno newidiadau gweithredol ar gyfer tenantiaid â nam ar eu golwg – mae crefftwyr bellach yn egluro cynnydd y gwaith trwsio ar lafar ac yn sicrhau nad oes unrhyw ddeunyddiau’n gallu creu peryglon baglu.

Rhoddwyd yr holl newidiadau hyn ar waith i roi profiad gwell i gwsmeriaid – ac mae’n gweithio!

Mae’r canlyniadau’n siarad drostynt eu hunain:

Mae boddhad tenantiaid ar ôl gwaith trwsio wedi cynyddu o 65 y cant i 95 y cant.

Cyflawnwyd cyfradd trwsio tro cyntaf o 92 y cant ar draws yr holl atgyweiriadau eiddo adweithiol.

Rydym wedi gostwng cwynion cwsmeriaid o dros 150 o achosion.

Rydym wedi lleihau’r amser aros cyfartalog ar y ffôn i un funud ac wedi cyflwyno ymrwymiad i alw nôl ar yr un diwrnod ar gyfer pob galwad a adewir.

Dywedodd Sian Macnamara, Rheolwr Cymorth Busnes:

“Wrth edrych yn ôl ar ein taith o sefydlu Llanw i ble rydym heddiw, mae’r datblygiad yn gwbl nodedig. Trwy flaenoriaethu hygyrchedd, gweithredu ar adborth cwsmeriaid, ac ymdrechu’n ddi-baid i gyflawni ansawdd, rydym wedi trawsnewid ein gwasanaeth ar gyfer ein cymunedau. Mae cael ein cydnabod am y gwaith caled hwn yn ailddatgan ein hymroddiad i ragoriaeth a gwelliant parhaus.”

P’un a fyddwn yn ennill y wobr neu beidio, rydym mor falch o gael ein cydnabod am ein gwasanaeth cwsmeriaid, ac rydym wedi ymrwymo i’w wella ymhellach!