Rydym wedi cyrraedd y rhestr fer amwobr TPAS Cymru!

Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod wedi cyrraedd y rhestr fer fel cyfranogwyr yn rownd derfynol Gwobrau Arfer Da TPAS Cymru 2025!

Eleni, rydym wedi cael ein cydnabod am ymgynghori â chwsmeriaid i lywio datblygiad Llanw. Dyma gipolwg ar y gwaith a wnaethom wrth adeiladu ein brand:

Dechreuom drwy ofyn i denantiaid ar y cyfryngau cymdeithasol: “Sut ddylai ein gwasanaeth atgyweirio deimlo?” Fe wnaeth eu hadborth – effeithlon, proffesiynol a dibynadwy – ein helpu i greu ein briff dylunio. Wrth adeiladu ein brand, fe wnaethom gynnal sawl sesiwn i gwsmeriaid ddeall sut olwg sydd ar wasanaeth cwsmeriaid da. Roedd y themâu a ddaeth i’r amlwg yn cynnwys pwysigrwydd bod yn
gwrtais, yn ddibynadwy, ac yn gyson (yn union fel y llanw), a dyna a arweiniodd at ein henwi ein hunain yn Llanw.

Ers creu Llanw, rydym hefyd wedi cynnal grŵp ffocws i denantiaid lle gwnaeth cwsmeriaid rannu eu profiadau bywyd a rhoi adborth ar sut i wella ein gwasanaethau. Gofynnodd cwsmeriaid am gyfathrebu
gwell, parodrwydd ar gyfer anableddau, a naws bersonol.

Dywedodd Paul Price, Rheolwr Gyfarwyddwr: “Rydym wrth ein boddau bod Llanw wedi cyrraedd y rhestr fer am Wobr Arfer Da TPAS Cymru. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn golygu llawer iawn i ni oherwydd ei bod yn adlewyrchu gwaith caled, angerdd ac ymrwymiad y tîm cyfan, yn enwedig yn y ffordd rydym wedi gweithio ochr yn ochr â thenantiaid i ffurfio gwasanaeth sydd wir yn diwallu eu hanghenion. Ni allwn fod yn fwy balch o bawb sydd ynghlwm â hyn.”

Diolch o galon i bawb a fu’n rhan o’r prosiectau hyn. Ni allwn aros i fynychu’r Seremoni Wobrwyo ar y 25ain Mehefin i ddathlu gyda’r enwebeion gwych eraill!