Dathlu Wythnos ‘Merched mewn Adeiladu’

Yn hanesyddol, mae adeiladu wedi bod yn ddiwydiant i ddynion yn bennaf. Nid oherwydd bod dynion wedi mynd ati i eithrio menywod, ond oherwydd bod diwylliant ac arfer wedi siapio disgwyliad ynghylch pwy oedd ‘fod’ i weithio yn y maes.

Hyd yn oed pan fod rolau swyddi’n dechnegol niwtral o ran rhywedd, mae’r negeseuon yn dal i ymdreiddio, gyda bechgyn yn cael eu hannog i ddewis crefftau a merched yn cael eu cyfeirio at rolau swyddfa gan ysgolion, teuluoedd a chymdeithas. Yn 2023, adroddodd Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru fod adeiladu yn un o’r tri sector lle gwelir yr arwahanu mwyaf o ran rhywedd yng Nghymru.

Os na fyddwn yn tynnu sylw at hynny, ac yn dilyn hyn â chamau gweithredu, mae’n parhau yn ddistaw.

Pam mae safbwyntiau menywod yn bwysig, a sut maen nhw’n dylanwadu ar ein gwaith

Nid yw menywod yn dod â safbwynt ‘gwell’; maen nhw’n dod ag un gwahanol, sy’n bwysig dros ben mewn amgylchedd sy’n cynnwys dynion yn bennaf. Mae hyrwyddo menywod yn y maes cynnal a chadw’n golygu gofyn cwestiynau am eu profiad bywyd.

Yn Llanw, rydym yn cydnabod yr anghydbwysedd rhywedd ar draws rhai rolau, sy’n golygu ein bod yn gyfrifol am wneud rhywbeth yn ei gylch.

Dyma sut mae hynny wedi edrych i ni:

● PPE wedi’i ddylunio’n benodol ar gyfer menywod – gan fod y rhan fwyaf o PPE yn dal i gael ei brofi ar ddynion
● Gwisgoedd ac esgidiau sy’n ffitio’n iawn trwy ein partneriaeth â Rugbi
● Mynediad at gynhyrchion hylendid
● Dal ein contractwyr a’n cyflenwyr i gyfrif — a yw eu safleoedd yn groesawgar? A yw’r cyfleusterau’n ddiogel?
● Herio barnau hen ffasiwn pan ddônt i’r wyneb
● Sicrhau mentora cryf i fenywod sy’n ymuno â’r gweithlu crefft

Ond nid yw’r gwaith hwn yn stopio’n fewnol, rydym hefyd wedi:

● Partneru â choleg lleol i ddangos cefnogaeth weithredol i grefftau benywaidd. Rydym wedi dweud yn glir “mae arnom eich eisiau chi yma”.
● Cymryd rhan mewn seminarau ar draws y sector ar fenywod mewn adeiladu, gan rannu arfer gorau a dysgu oddi wrth gymdeithasau tai eraill.

Roeddem yn falch iawn o weld Tai Pawb yn cydnabod yr ymdrechion hyn yn eu Canllaw Arfer Da Menywod mewn Crefftau a Chynnal a Chadw y mis diwethaf. Dywedasant:

“Mae Llanw wedi rhoi pwyslais cryf ar fentora, cefnogi llesiant, ac wedi mynd i’r afael â diwylliant y gweithle yn agored ac yn onest, gan annog cydweithwyr gwrywaidd i fyfyrio ar yr amodau y byddent am i’r menywod yn eu bywydau eu hunain weithio ynddynt.

“Mae Llanw wedi gwella mynediad at PPE sydd wedi’i ddylunio ar gyfer menywod ac wedi defnyddio rheoli contractau a chaffael i hyrwyddo arfer EDI ystyrlon, yn hytrach nag ymarferion ticio blychau.”

Mae gwybod ein bod ar y llwybr iawn yn cryfhau ein hymrwymiad i barhau â’r gwaith ystyrlon hwn.

Grym Cynrychiolaeth

Dywedodd crefftwr benywaidd wrthym yn ddiweddar fod ganddi ddarlithydd prifysgol a ddaeth o gefndir gweithio ar safle, a bod gweld menyw a oedd wedi dilyn y llwybr hwnnw yn bwysig. Roedd yn gwneud y posibilrwydd yn un real. Rhannodd hefyd ei bod yn gofyn yn syth i gwmnïau am eu polisïau cydraddoldeb a chynhwysiant mewn cyfweliadau.

Gwyddom fod cynrychiolaeth yn bwysig, felly rydym am dynnu sylw at waith ein crefftwyr a’n prentisiaid benywaidd i ddangos ein bod yn croesawu menywod yn Llanw.

Y llynedd, roeddem yn ddigon ffodus i ffilmio ein prentis, Kaitlyn, wrth ei gwaith, a siaradodd yn galonogol am sut mae cwsmeriaid wedi ymateb yn gadarnhaol pan fydd yn galw yn eu cartrefi.

Rydym yn ffodus bod gennym arweinyddion benywaidd a gwrywaidd cryf yn Llanw sy’n cefnogi cydweithwyr fel Kaitlyn i ffynnu.

Dywedodd Sian Macnamara, ein Rheolwr Cymorth Busnes:

“Yn Llanw, rydym yn falch o fod ar y daith tuag at gydraddoldeb a thegwch rhywedd. Trwy ddysgu’n agored a rhannu ein profiadau bywyd, rydym yn helpu i lywio’r sgwrs am fenywod mewn adeiladu. O’r cychwyn cyntaf, rydym wedi bod yn onest ynglŷn â’n mannau gwan ac wedi ymrwymo i wella – oherwydd bod cynnydd go iawn yn ymgodi o fod yn agored, cydweithio a chefnogi ein gilydd ar draws y diwydiant.”

Y mis hwn, rydym yn falch o anfon neges glir – ni ddylai unrhyw fenyw fyth deimlo bod drws ar gau oherwydd ei rhywedd!