Fyddwch chi ddim yn credu bethwnaethon ni ei roi i ffwrdd ar gyfer einpen-blwydd cyntaf!

O gystadlaethau i ddigwyddiadau cymunedol, mae’r mis hwn wedi bod yn llawn momentau da a dathliadau haeddiannol i’n helpu i ddathlu ein pen- blwydd. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb haelioni ein partneriaid.

Hwyl a gwobrau’r Pasg

Gyda’n gilydd, fe lwyddom i sicrhau Wyau Pasg, technoleg cartref clyfar, a thalebau anrhegion i wneud ein dathliadau yn arbennig iawn i gwsmeriaid a chydweithwyr.

Roedd eu haelioni yn ein galluogi i:

● Gynnal cystadleuaeth ar y cyfryngau cymdeithasol i gwsmeriaid a wnaeth ymateb i’n postiad pen-blwydd.
● Dweud diolch wrth ddau gwsmer a roddodd adborth i ni yn ddiweddar ar ein gwasanaeth atgyweirio.
● Rhoi anrheg i un cwsmer ffodus a ddaeth draw i’n Sioe Deithiol Atgyweiriadau.
● Dosbarthu anrhegion gwych i ychydig o enillwyr lwcus iawn.
● Fe wnaethom hefyd adael taleb bwyd yn y banc bwyd lleol i gael y cyflenwadau yr oedd eu hangen arnynt.

Roedd yn bleser gennym hefyd roi’r Wyau Pasg a oedd yn weddill i Lys Ton, ein cynllun Gofal Ychwanegol, fel y gall y preswylwyr fwynhau danteithion melys dros benwythnos y Pasg.

Dyma restr o’r hyn a roddwyd yn garedig:
● Millstone Construction & Electrical (Wales) Ltd – Talebau Amazon gwerth £100
● Robert Price Builders’ Merchants – Cardiau rhodd gwerth £100
● CEF – Rhoddion o dechnoleg cartref clyfar a bwndeli o wyau Pasg
● Rugbi Industrial Supplies – Cerdyn rhodd gwerth £100
● ASW – Bwndel o 54 o Wyau Pasg
● D & M Building Services Ltd – Rheolyddion gwresogi Hive
● Middleton Roofing – 2x Clychau Drws Ring, 2x Amazon Echo Hubs, 1x Thermostat Nest, a 6x Ŵy Pasg

Mae’r cynigion hyn yn mynd ymhell i ddangos i gwsmeriaid eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac i ddod ag ychydig o lawenydd ychwanegol i gartrefi pobl.