Ddydd Gwener, fe wnaethom ddathlu ein pen-blwydd cyntaf – carreg filltir falch i gwmni sydd wedi tyfu’n gyflym ac wedi cyflawni cymaint mewn dim ond 12 mis.
Ond nid parti yn unig oedd hwn. Roedd yn adlewyrchiad gwirioneddol o’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn rhan o Llanw – lle mae pobl yn teimlo bod ganddynt gysylltiad, eu bod yn cael eu hysbrydoli ac yn cael eu
gwerthfawrogi.
O’r dechrau un, adeiladwyd Llanw ar y gred y gallem wneud pethau’n wahanol. Gallem ddarparu gwasanaethau gwell i’n cwsmeriaid trwy feithrin diwylliant lle mae pobl yn mwynhau dod i’r gwaith, yn teimlo’n falch o’r hyn y maent yn ei wneud, ac yn cael cyfleoedd i dyfu. Roedd y diwylliant hwnnw i’w weld yn glir yn ein digwyddiad pen-blwydd.
Daeth cydweithwyr ynghyd i fyfyrio ar yr hyn rydym wedi’i gyflawni dros y flwyddyn diwethaf:
● Dros 26,000 o atgyweiriadau ymatebol wedi’u cwblhau.
● Sgôr boddhad cwsmeriaid o 90% (i fyny o 60%).
● 292 o gartrefi gwag wedi’u hadnewyddu a’u paratoi.
● Cynnydd sylweddol ar waith trin lleithder a llwydni.
● Dyrchafiadau mewnol, hyfforddiant, a rhaglen brentisiaeth sy’n tyfu.
Nid dim ond beth rydym yn ei wneud sy’n bwysig, ond sut rydym yn ei wneud. Fe wnaethom ddathlu’r ymdrech gydweithredol y tu ôl i’r llwyddiannau hyn, gan gynnwys cyfraniadau hanfodol ein contractwyr, ein cyflenwyr a’n partneriaid.
Un o uchafbwyntiau’r dydd oedd clywed gan yr arwr rygbi Sam Warburton, a siaradodd yn agored am arweinyddiaeth, proffesiynoldeb, anawsterau, a’r hyn sydd ei angen i gael y gorau o dîm.
Roedd ei sylwadau yn taro deuddeg gyda ni, oherwydd yn Llanw, nid teitlau swydd yn unig yw arweinyddiaeth. Mae’n ymwneud â chefnogi ein gilydd a chreu amgylchedd lle gall pawb ffynnu.
Fe wnaethom hefyd rannu diweddariadau ar ddyrchafiadau mewnol, cynlluniau i gynyddu amrywiaeth, a chyfleoedd hyfforddi sydd ar ddod – o dystysgrifau solar MCS i ddatblygu arweinyddiaeth a hyfforddiant technegol.
Rydym o ddifrif ynglŷn â helpu ein pobl i dyfu, ac mae hynny’n amlwg. Boed yn annog prentisiaid, hyrwyddo menywod mewn adeiladu, neu gefnogi llwybrau gyrfa newydd, mae Llanw yn rhywle lle y gallwch ddatblygu.
Ac os ydych chi’n rhywun sy’n chwilio am weithle lle gallwch gael effaith wirioneddol, lle mae eich syniadau’n cyfrif, a lle rydych chi’n cael eich cefnogi i dyfu – efallai mai Llanw yw’r lle i chi. Dyma i’r ail flwyddyn!