Rydym mor falch o fod ar y rhestr fer ar gyfer y wobr Contractwr sy’n Canolbwyntio ar Denantiaid yng Ngwobrau Arfer Da TPAS Cymru eleni – ffordd wych o nodi dwy flynedd o Llanw!
Mae TPAS Cymru yn gweithio gyda landlordiaid a thenantiaid yng Nghymru i lywio gwasanaethau tai.
Mae eu gwobrau blynyddol yn dathlu arfer da ym maes tai cymdeithasol ledled Cymru drwy dynnu sylw at bobl a phrosiectau dylanwadol.
Mae’n gyfle gwych i gydweithwyr a chwsmeriaid fwynhau cinio gala gyda’i gilydd a chael ysbrydoliaeth gan sefydliadau tai eraill.
Rydym wedi cael ein cydnabod am roi tenantiaid wrth graidd ein gwasanaethau, sef yr union reswm pam y cafodd Llanw ei greu yn y lle cyntaf.
Dyma rai o’r gwelliannau rydym wedi eu gwneud dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn dilyn adborth gan gwsmeriaid:
● Cynnig apwyntiadau trwsio dros y penwythnos a gyda’r nos, fel y gall ein cwsmeriaid drefnu gwaith trwsio o amgylch eu bywydau a’u hymrwymiadau.
● Cyflwyno nodwedd ‘tracio eich crefftwr’, fel y gall cwsmeriaid weld pryd y byddwn yn cyrraedd. Mae
hyn yn rhoi hyder i gwsmeriaid eu bod yn agor y drws i’n gweithwyr ni.
● Lansio ‘Dydd Gwener Adborth’ i neilltuo amser i ffonio cwsmeriaid anfodlon. Rydym wedi dysgu llawer
drwy wrando ar brofiadau cwsmeriaid.
● Gwneud ein gwasanaeth yn fwy cynhwysol. Er enghraifft, rydym wedi croesawu siaradwr Cymraeg i’r tîm yn ddiweddar fel y gall pobl roi gwybod am waith trwsio yn eu mamiaith.
Mae’r newidiadau hyn wedi ein helpu i godi lefel y boddhad ar ôl gwaith trwsio o 65% i 95%, ac nid yw hynny’n dasg hawdd! Ond peidiwch â chymryd ein gair ni am hyn…
“Rwy’n llawn edmygedd – adroddwyd am y gwaith trwsio ac fe’i datryswyd o fewn
ychydig oriau!”
“Roedd eich gŵr ifanc hyfryd yn gwrtais ac yn ddymunol, ac fe wnaeth waith gwych!”
“Roeddwn yn hapus iawn gydag ymweliad heddiw. Roedd eich gweithwyr yn
broffesiynol ac yn ddoniol, a wnaeth i mi deimlo’n gartrefol!”
Er ein bod yn gobeithio am fuddugoliaeth ar y noson fawr, rydym eisoes yn falch iawn o’n cydweithwyr gwych sydd wedi gwneud yr enwebiad hwn yn bosibl!
